BIOGRAPHY

Steffan Donnelly

Steffan Donnelly smiling at the camera.

Steffan Donnelly is the Artistic Director and Co-Chief Executive of Theatr Cymru.

His recent work as a director includes Huw Fyw, Dawns y Ceirw (Wales tour and Japan), My Name is Rachel Corrie, Ha/Ha, Parti Priodas (winner of a UK Theatre Award 2024), Theatr Cymru Press Release 14 May 2025.

Rhinoseros, Kiki Cymraeg and Gwlad yr Asyn (Theatr Cymru) and Monologau’r Maes – short films with Dame Siân Phillips and John Ogwen (National Eisteddfod Wales).

His work as an actor includes productions at Theatr Clwyd, the Barbican Centre and several seasons at Shakespeare’s Globe.

After graduating from the Guildhall School of Music and Drama in London, he founded Invertigo Theatre Company which toured the United Kingdom and internationally with several productions including Saer Doliau, Y Tŵr, My Body Welsh, My People, and Derwen.

Two of his plays (My People, My Body Welsh) have been published by Methuen Drama and he founded the digital library Dramau Cymru / Plays of Wales while studying for his master’s degree at King’s College London. Steffan is one of the founders of Cultural Freelancers Wales (formerly the Wales Freelance Task Force, responding to the impact of the pandemic on the freelance sector).

Steffan Donnelly yw Cyfarwyddwr Artistig a Chyd-Brif Weithredwr Theatr Cymru.

Mae ei waith diweddar fel cyfarwyddwr yn cynnwys Huw Fyw, Dawns y Ceirw (taith Cymru a Japan), My Name is Rachel Corrie, Ha/Ha, Parti Priodas (enillydd un o Wobrau Theatr y Deyrnas Unedig 2024), Rhinoseros, Kiki Cymraeg a Gwlad yr Asyn (Theatr Cymru) a Monologau’r Maes – ffilmiau byrion gyda’r Fonesig Siân Phillips a John Ogwen (Eisteddfod Genedlaethol Cymru).

Mae ei waith fel actor yn cynnwys cynyrchiadau yn Theatr Clwyd, Canolfan y Barbican a sawl tymor yn Shakespeare’s Globe.

Ar ôl graddio o Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain, sefydlodd Gwmni Theatr Invertigo a fu’n teithio o gwmpas gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol gyda sawl cynhyrchiad gan gynnwys Saer Doliau, Y Tŵr, My Body Welsh, My People, a Derwen.

Mae dwy o’i ddramâu (My People, My Body Welsh) wedi cael eu cyhoeddi gan Methuen Drama, a Steffan sefydlodd y llyfrgell ddigidol Dramâu Cymru wrth astudio ar gyfer ei radd meistr yng Ngholeg y Brenin Llundain. Mae’n un o sylfaenwyr Gweithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru (a elwid gynt yn Dasglu Gweithwyr Llawrydd Cymru, oedd yn ymateb i effaith y pandemig ar y sector gweithwyr llawrydd).